Sut mae gweminarau rhwydwaith cymheiriaid Plunkett yn helpu tafarndai a siopau cymunedol ledled Cymru a’r Alban i rannu profiadau, datrys heriau a meithrin cysylltiadau parhaol.
Efallai bod gwreiddiau busnesau sy’n eiddo i’r gymuned yn lleol, ond mae’r heriau a’r cyfleoedd maen nhw’n eu hwynebu yn aml yn rhai cyffredin. Boed yn siop bentref yng Nghymru neu’n dafarn gymunedol yn yr Alban, yr un yw’r cwestiynau sy’n codi: sut mae ymgysylltu â gwirfoddolwyr, cynhyrchu incwm cynaliadwy, dangos effaith, a chreu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion lleol?
Yn Plunkett, mae cefnogi cymunedau i ateb y cwestiynau hynny wrth galon yr hyn a wnawn. Er bod llawer o’n hadnoddau wedi’u cynllunio i fod yn berthnasol ledled y DU, rydym ni hefyd yn cydnabod bod cymunedau yn y gwledydd datganoledig yn wynebu eu hamgylchiadau unigryw eu hunain. Dyna pam ein bod ni, dros y pedair blynedd diwethaf, wedi bod yn cynnal galwadau rhwydwaith a gweminarau pwrpasol i fusnesau sy’n eiddo i’r gymuned yng Nghymru a’r Alban.

Mae’r hyn a ddechreuodd fel cyfres o gyfarfodydd ar-lein ar gyfer tafarndai gwledig yr Alban, gydag arian gan Rwydwaith Gwledig yr Alban Llywodraeth yr Alban, wedi tyfu’n rhaglen ffyniannus sy’n cysylltu busnesau’r ddwy wlad. Mae cymorth ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Dulverton wedi ein galluogi i ehangu’r rhaglen i gynnwys siopau sy’n eiddo i’r gymuned yn yr Alban a siopau a thafarndai yng Nghymru. Erbyn heddiw, mae’r sesiynau hyn yn gyfle i wneud llawer mwy na rhannu gwybodaeth. Maen nhw wedi dod yn fannau lle mae cymunedau’n dysgu oddi wrth ei gilydd, yn meithrin perthnasoedd ac yn darganfod eu bod yn rhan o fudiad llawer mwy.
Mae’n bwysig iawn nad yw’r rhain yn ddigwyddiadau rhwydweithio generig. Drwy ddod â busnesau sy’n gweithredu yn yr un sector a gwlad at ei gilydd, gall trafodaethau ganolbwyntio ar faterion sy’n uniongyrchol berthnasol i’r bobl ar y sgrin. Er bod pob busnes cymunedol yn unigryw, mae’r cyfle i ddysgu gan gyfoedion sydd wedi wynebu heriau tebyg yn aml yn un o’r mathau mwyaf gwerthfawr o gymorth sydd ar gael.
Mae pob sesiwn yn cael ei hwyluso gan Swyddog Effaith Plunkett, ac yn cael ei mynychu gan un o’n cynghorwyr arbenigol. Mae cyfarfodydd fel arfer yn dechrau gyda diweddariadau o bob rhan o’r sector, ac yna ceir trafodaethau ar bynciau sy’n amrywio o effaith gymdeithasol i ymgysylltu â’r gymuned, llywodraethiant, cyfleoedd cyllido a datblygu busnes.
Mae’r sesiynau hefyd yn rhoi llwyfan i siaradwyr arbenigol. Dros y blynyddoedd, mae sefydliadau fel Planed a Cwmpas yng Nghymru, yn ogystal â Democratic Finance Scotland, wedi ymuno â’r galwadau i rannu gwybodaeth a chymorth arbenigol i fusnesau cymunedol.
“Rwy’n credu bod y sesiynau hyn yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig oherwydd bod modd gwahodd pobl sydd â phrofiad ac arbenigedd penodol i gymryd rhan. Mae pob un ohonom ar gam gwahanol yn nhaith ein busnesau, felly’n naturiol mae rhai sgyrsiau’n fwy perthnasol i rai nac i eraill. Ond, mae trefn gadarn i’r sesiynau, ac mae’r amserlen yn helpu i sicrhau bod y trafodaethau’n gynhyrchiol ac nad ydynt yn gwyro oddi wrth prif bwynt y sesiwn.”
Huw Jones, Ty’n Llan
Fodd bynnag, mae rhai o’r cyfraniadau mwyaf ysbrydoledig wedi dod gan y busnesau cymunedol eu hunain
Yng Nghymru, mae mynychwyr y sesiynau tafarn wedi clywed gan Dafarn Yr Heliwr yng Ngwynedd, a rannodd sut mae eu tafarn gymunedol yn helpu i hyrwyddo’r Gymraeg drwy gelfyddyd, sgyrsiau a gweithgareddau diwylliannol.
Mae grwpiau siopau yng Nghymru hefyd wedi elwa o glywed am enghreifftiau fel Ty’n Llan; mae profiadau’r dafarn hon wedi helpu i lunio’r rôl y gall busnesau sy’n eiddo i’r gymuned ei chwarae wrth gynnal gwasanaethau lleol a chreu mannau bywiog i drigolion ddod at ei gilydd.
Yn ngalwadau tafarn yr Alban, daeth llefarydd o’r Red Lion yn Fife i siarad am y cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau sy’n cael eu creu drwy berchnogaeth gymunedol, gan gynnwys cefnogi preswylwyr lleol i ennill cymwysterau bragu.
Efallai mai cryfder mwyaf y sesiynau hyn yw amrywiaeth y profiadau sy’n cael sylw. Mae rhai mynychwyr yn dod o fusnesau sefydledig sydd â blynyddoedd o brofiad yn masnachu, tra mae eraill wrthi’n dechrau dysgu rhagor am berchnogaeth gymunedol. Mae dod â’r grwpiau hynny at ei gilydd yn creu amgylchedd cefnogol lle gellir rhannu cyngor ymarferol, anogaeth a barn yn onest.
Dros amser, mae’r perthnasoedd sy’n cael eu meithrin drwy’r rhwydweithiau hyn wedi ymestyn y tu hwnt i’r galwadau eu hunain. Mae grwpiau wedi rhannu adnoddau, wedi trefnu ymweliadau safle ac wedi parhau â sgyrsiau ymhell ar ôl i’r cyfarfodydd ddod i ben. Ar sawl achlysur, mae’r cysylltiadau a ffurfiwyd wedi datblygu’n ffynhonnell barhaus o gefnogaeth drwy gydol taith perchnogaeth cymuned.
Mae cyfieithu ar y pryd ar gael yn y sesiynau Cymraeg er mwyn sicrhau bod cyfranogwyr yn gallu trafod yn yr iaith y maen nhw fwyaf cyfforddus â hi. Ar rai adegau, mae trafodaethau rhwng y rhai sy’n bresennol wedi cael eu cynnal bron yn gyfan gwbl yn Gymraeg, ac mae hynny’n adlewyrchu pwysigrwydd creu mannau sy’n gweithio i’r gymuned y maent wedi’u cynllunio i’w gwasanaethu.
Yn Plunkett, rydym ni’n aml yn sôn am rym y mudiad perchnogaeth gymunedol. Mae’r rhwydweithiau pwrpasol hyn yn y gwledydd datganoledig yn helpu i ddod â’r mudiad hwnnw’n fyw. Drwy gysylltu tafarndai â thafarndai eraill, a siopau â siopau eraill, maen nhw’n creu lle i gymunedau ddysgu oddi wrth ei gilydd, i ddathlu eu llwyddiannau ac i fynd i’r afael â heriau ar y cyd.
Y Rhaglenni presennol ar gyfer y Gwledydd Datganoledig!
Yn ogystal â’n gwasanaeth cynghori busnes cyffredinol, mae gan Plunkett nifer o raglenni ar hyn o bryd ar gyllid grant a chefnogaeth busnes gyda meini prawf cymhwysedd penodol. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglenni hyn, cysylltwch â’r Tîm Busnes Cymunedol drwy anfon e-bost at info@plunkett.co.uk






