“Sicrhau mai nid casgliad o dai ydy pentref.”
Beth yw tafarn? Rhywle i fynd am beint neu bryd cyflym?
Neu yn ein byd ni heddiw, ble mae pawb ohonom yn treulio mwy o amser ar-lein neu’n gweithio o adref, a’n gofodau cymdeithasol yn prinhau, ydi tafarn yn rhywbeth mwy?
“Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fy mywyd i,” meddai Helen Jones sydd wedi ymddeol, wrth sôn am ail-agor tafarn gymunedol Ty’n Llan, yn Llandwrog ger Caernarfon.
“Mae’n fy nghael i allan o’r tŷ a dwi’n gweld pawb yma. Mae’n ffantastig a bod yn onest.”

Ffrindiau’n cyfarfod yn Ty’n Llan

Swatio’n braf o flaen y tân yn Ty’n Llan
Caeodd drysau’r dafarn nôl yn 2017, ar adeg pan oedd 18 tafarn yn cau bob wythnos ledled Prydain. Am sawl blwyddyn bu’r adeilad yn wag – yn gragen yng nghanol y pentref – nes i’r newyddion ledaenu yn 2021 fod bwriad i’w gwerthu. Yn fuan, fe ddatblygodd pryder lleol i fod yn ymgyrch gan y gymuned oedd yn benderfynol o’i phrynu a’i hadfywio.
“Roedden ni’n dod at ddiwedd y cyfnod clo, ac roedd pobl yn fwy ymwybodol nag erioed o bwysigrwydd cymuned a chysylltiad,” eglura Huw Jones, Trysorydd Menter Ty’n Llan, y fenter gymunedol sy’n gyfrifol am y prosiect. “Pan glywsom fod Ty’n Llan am gael ei rhoi ar y farchnad, roedd na deimlad fod na frys i wneud rhywbeth – doedd neb eisiau gweld y dafarn yn cael ei throi’n dŷ preifat, fyddai’n golygu ei cholli am byth.”
Galwyd cyfarfod cyhoeddus – dros Zoom, gan fod cyfyngiadau’r cyfnod clo dal ar waith ar y pryd – ac ymunodd dros 100 o drigolion, gan gadarnhau’r awch cryf lleol i weithredu. Symudodd pethau yn eu blaen yn gyflym, a gofynnwyd i bobl ymrwymo i roi benthyciadau tymor byr er mwyn iddynt allu gwneud cynnig cychwynnol, tra’n sefydlu cynllun cyfranddaliadau cymunedol i godi arian hirdymor.
Gyda chefnogaeth sefydliadau megis Plunkett UK a Cwmpas, lansiodd y gymuned apêl a ddenodd sylw’r wasg ledled Cymru a thu hwnt. Cynyddodd y momentwm yn gyflym tuag at ddiwedd yr apêl – a llwyddwyd i godi £465,200, £65,200 yn fwy na’r targed.
Aeth y pryniant yn ei flaen yn ddiweddarach yn 2021, ac erbyn Nadolig y flwyddyn honno, roedd y dafarn wedi ailagor fel ag yr oedd hi tra’r oedd gwaith adnewyddu hanfodol yn mynd rhagddo.
Nawr, ar ôl adeiladu estyniad a gwneud gwaith adnewyddu sylweddol, sy’n llawn dehongliadau o elfennau o dirwedd a threftadaeth leol, mae Ty’n Llan – sy’n aelod o Plunkett – ar fin ail-agor yn llawn fel canolfan fodern i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
“Mae ganddom ni bob math o grwpiau cymunedol yma yn Ty’n Llan. Mae Ty’n Llan Ni yn grŵp i blant a phobl ifanc y pentref, ac rydym ni’n gwneud llawer gyda’r ysgol gynradd leol hefyd. Mae yna gyfarfod misol ar gyfer dysgwyr Cymraeg, ac mae grŵp cerdded yn cwfwr yma am baned ar ôl bod am dro. Mae bore coffi yma, a chwis misol… mae hi’n fwrlwm o ddigwyddiadau yma bob wythnos a dweud y gwir. Dwi’n meddwl bod pobl yn ddiolchgar o gael rhywle cynnes, saff a chroesawgar i ddod pan maen nhw isio ychydig o gwmni, neu deimlo’n rhan o rywbeth.”
Sioned Rowlands, Swyddog Cymunedol newydd Menter Ty’n Llan


Yr ystafell pŵl cyn ar ôl y gwaith adnewyddu


Bar Ty’n Llan wedi ei drawsnewid

Mae golygfeydd godidog o’r Eifl o fwyty newydd Ty’n Llan
Mae gan yr adeilad bellach bum ystafell wely foethus, cegin newydd sbon, bwyty modern gyda golygfeydd tuag at fynyddoedd yr Eifl, ac ystafell gymunedol bwrpasol. Yn yr ardd, mae gwt gwerthu ble gall trigolion y pentref brynu nwyddau sylfaenol fel llefrith a bara.
Bu’r gwaith adnewyddu sylweddol hwn yn bosibl gyda chymorth grant sylweddol, gan gynnwys cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (SPF), Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac Arfor.
Cyn hynny, cafwyd cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru (CFP), Cronfa Cyfleoedd Cymunedol Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
“Rydym wedi bod yn hynod lwcus o’r grantiau sydd wedi bod ar gael ac mae’r gefnogaeth gan y gymuned, o bob cwr o Gymru a thu hwnt, wedi bod yn hollbwysig,” ychwanega Huw. “Mae wedi bod yn anhygoel gweld pobl â sgiliau a phrofiadau mor amrywiol yn dod at ei gilydd er mwyn cyrraedd y nod.”
“Gall tafarn fel hon, sy’n ganolfan gymdeithasol i bawb, fod yn galon y gymuned, gan sicrhau mai nid casgliad o dai ydy pentref. Mae’n waith caled, ac mae’n cymryd amser, ond os oes gennych gymuned gref sy’n barod i gydweithio, gallwch chi lwyddo hefyd.”
Cynhaliwyd noson agoriadol Ty’n Llan ar nos Wener 28 Tachwedd 2025.
Hawlfraint lluniau: Outwest Images

Mwynhau diod ym mar modern Ty’n Llan
How does your community business bring people together? We’d love to hear from you
We’d love to hear about the impact your community business has in your area. Whether it’s through inclusive spaces, social activities, volunteering opportunities, or simply offering a place to connect – your stories matter.
Share your stories to communications@plunkett.co.uk so we can shine a light on the powerful impact of community businesses and inspire others to do the same.




